Ganwyd 6 Mehefin 1827, yn fab i Hugh Robert Hughes, Bache Hall, sir Gaer, o'i ail wraig, Anne, merch Thomas Lance, Wavertree Hall Lancashire.
Y cyntaf o'r teulu i ymsefydlu yng Nghinmel, hen gartref yr Holandiaid oedd ei daid y Parch. Edward Hughes, M.A. (1738 - 1815), a brynodd y stad yn niwedd y 18fed ganrif. Mab ydoedd ef i Hugh Hughes, Lleiniog, Môn (1705/6 - 1773/4), a fu'n ysgrifennydd cyfrinachol i'r Dr. Edward Wynne, Bodewryd, ac a wellodd cryn dipyn ar ei fyd tra yng ngwasanaeth y gŵr hwnnw. O'i dri mab, priododd Edward, yr hynaf, Mary, merch a chyd-etifeddes Robert Lewis Llysdulas, canghellor Bangor, ac yn enw'i wraig daeth i feddiant o ran o ochr orllewinol mynydd Parys ger Amlwch, ac o'r mwyn copr gwerthfawr a ddarganfuwyd yno yn ystod ail ran y 18fed ganrif. Dilynwyd Edward Hughes fel prif berchennog y gwaith copr (Parys Mine) gan ei fab, WILLIAM LEWIS HUGHES (1767 - 1852), a fu'n aelod seneddol dros Wallingford Borough, swydd Berks, 1802-26 a 1830-1, ac a grewyd yn farwn Dinorben yn 1831. Ar ei ôl yntau daeth ei fab, William Lewis Hughes II (1821 - 1852), yr 2il farwn; ond trwy ei farw ef yn ddibriod, 6 Hydref 1852, wyth mis wedi claddu'i dad, daeth stad Kinmel a Dinorben yn eiddo i'w gefnder, Hugh Robert Hughes yr ieuengaf.
Bu Hughes yn uchel sheriff Môn yn 1855 a Sir y Fflint yn 1871, ac yn ustus heddwch hefyd yn y ddwy sir. Daliodd y swydd o gyrnol yn y Denbighshire Yeomanry, ac yn 1871 fe'i gwnaed yn arglwydd raglaw sir Fflint. Ond nid oedd bywyd cyhoeddus yn hollol wrth ei fodd, ac fel awdurdod uchel ar achyddiaeth a hynafiaethau Cymraeg y coffeir ei enw yn fwyaf arbennig. Hanes hen deuluoedd Gogledd Cymru ydoedd ei brif ddiddordeb, fel y tystia'r amryw gyfraniadau gwerthfawr o'i eiddo yn Bye-Gones a'i ohebiaeth â chydefrydwyr o'r un pwnc. Priododd, 1853, Florentia Emily Liddell, ail ferch Henry Thomas, arglwydd Ravensworth. Bu farw 29 Ebrill 1911, gan adael y stad i'w fab hynaf, Hugh Seymour Bulkeley Lewis Hughes.
Gweler hefyd Michael Hughes.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.