Ganwyd yn Tanyrallt, plwyf Abererch, Sir Gaernarfon, o deulu y dywedid fod ganddynt allu eithriadol i wella'r ddafaden wyllt, etc. Ar ôl priodi symudodd i fyw yn Mur Crysto, Llangybi, 1821. Yr oedd yn gyfeillgar â David Owen ('Dewi Wyn o Eifion'), Ebenezer Thomas ('Eben Fardd'), a Robert Williams ('Robert ap Gwilym Ddu'). Gymaint oedd ei allu fel y gelwid ef ' Dewin y Cennin.' Ymfudodd i U.D.A. yn 1845, gan ymsefydlu yn Columbus, Wisconsin; dywedir mai yn ei dŷ ef yno y traddodwyd y bregeth Gymraeg gyntaf yn nhalaith Wisconsin. Parhaodd gyda'i waith o drin cancr a'r 'ddafaden wyllt' yn America. Bu farw 15 Mawrth 1879.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.