Ganwyd yn Nowlais, Sir Forgannwg, 12 Chwefror 1842. Daeth ei rhieni o Sir Benfro i Ddowlais, a chafodd y tad le i ofalu am fynwent Pant, Dowlais.
Yn eneth ieuanc daeth i sylw fel cantores yng nghyngerddau Merthyr ac Aberdâr. Ffurfiwyd pwyllgor lleol, a chaed cynhorthwy gwyl gerddorol Gwent a Morgannwg (1863) i sicrhau addysg gerddorol iddi, a chafodd gwrs o addysg gan Miss Sarah Ada Gedrych a Mr. Mills, organydd eglwys gadeiriol Llandaf. Yn 1864 aeth i'r Royal Academy o dan ddisgyblaeth Garcia. Oherwydd gwaeledd cyfyngwyd ar ei llwyddiant fel cantores. Yn 1871 priododd Lloyd Hughes, gwr o dalent a gallu, a oedd mewn swydd bwysig mewn banc yn Llundain. Bu Megan Watts Hughes ar deithiau cerddorol yng Ngogledd Cymru gyda Dr. Joseph Parry, a chanai ' Y Fwyalchen,' ' Hen Feibl Mawr fy Mam,' etc. Cymerodd ran ddwywaith yn yr opera ' Orpheus ' (Gluck), a chanodd ddeuawdau gyda Jenny Lind, y gantores enwog.
Yn fuan wedi priodi sefydlodd gartref i fechgyn diymgeledd a digartref, a gwariodd hi a'i gwr eu harian ar achosion crefyddol a dyngarol.
Cyfansoddodd amryw donau cynulleidfaol, a cheir rhai ohonynt yn Tonau, Salmau, ac Anthemau (D. Jenkins). Erys ' Wilton Square,' 7.6, yn boblogaidd. Cyhoeddwyd ei hanthem, ' Atgyfodiad,' a bu ei chân ' Y Gwcw ar y Fedwen ' yn boblogaidd am gyfnod hir. Dyfeisiodd offeryn bychan a gafodd gryn sylw, a enwid ganddi yn ' Voice Figures.' Cenid iddo â'r llais, a thrwy'r dirgryniadau tynnid darluniau o wahanol flodau. Rhoddodd arbrofion gyda'r offeryn yng nghyfarfod y Royal Society yn Llundain, ac ysgrifennodd lyfr ar y dargan-fyddiad.
Bu farw 29 Hydref 1907 a chladdwyd hi ym mynwent Abney Park, Llundain. Yr oedd 30 o blant y cartref yn yr angladd, a siaradwyd gan Dr. Mary Davies ar lan y bedd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.