HUGHES, JOHN WILLIAM (1817 - 1849; ' Edeyrn ap Nudd,' ac wedi hynny ' Edeyrn o Fôn '; llenor crwydrad

Enw: John William Hughes
Ffugenw: Edeyrn ap Nudd, Edeyrn O Fôn
Dyddiad geni: 1817
Dyddiad marw: 1849
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llenor crwydrad
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Thomas Richards

Ganwyd ym Modedern, mewn tlodi mawr, mab i saer maen; crwba gwyrgam o gorff; cael ei brentisio yn deiliwr. Esgeuluso addysg, ond cael hwyl ar brydyddu; yn 1840 cyhoeddodd Cell Awen (yr Wyddgrug), lle y mae cerdd hir o'i eiddo yn canmol ei gefnogwyr (t. 33-69); yn 1842 cyhoeddi'r Lloffyn yn Aberystwyth, ei waith ef ac eraill. Cafodd lawer o garedigrwydd gan rai o offeiriaid Môn, ac erbyn 1844 yr oedd ym Mangor yn ceisio ymgymhwyso at gael urddau Eglwys Loegr. Yn anffodus daeth ar draws Isaac Harries, golygydd brochus Figaro the Second, ac aeth yn ffrae benben rhyngddynt yn y Gymdeithas Gymreigyddol; ffrwyth y ffrae oedd gosod cartŵn hyll o ' Edeyrn ' yn y Figaro, ac yntau'n ateb drwy fygwth dod ag Anti-Figaro allan i ateb y Figaro. Nid oedd felly fawr hwyl ar yr ymgymhwyso; er hynny, cyhoeddodd bamffled yn y Bala, 1844 (arg. Sanderson), ateb chwyrn i ymosodiad Bedyddiwr ar Eglwys Loegr, ac yn 1845 Gwinllan Galar (arg. Llanrwst), marwnadau am offeiriaid a fu'n noddwyr iddo. Ym misoedd olaf 1845 yr oedd yn Llanerfyl, ac erbyn haf 1847 yn Llundain, yn derbyn cardod gan ' Aled o Fôn,' chwarae englynion digrif gyda ' Sam o Fôn,' rhoddi gwersi mewn Cymraeg i ferch ' Gwrgant ', a derbyn gwersi mewn Saesneg gan fwy nag un athro. Yr oedd yn gystadleuydd aflwyddiannus yn eisteddfod y Fenni, 1848; bu am fisoedd yn y flwyddyn honno a dechrau 1849 yn aros gyda llenorion caredig Pontypridd, y Fenni, a Merthyr Tydfil. Dywedir fod yn ei fryd gystadlu ar yr awdl yn eisteddfod Aberffraw, haf 1849; sicr yw fod yn ei fwriad gyhoeddi llyfryn dan yr enw Llusern Eglwysig, a chasglu enwau at hwnnw. Yng ngogledd Penfro yr ydoedd pan fu farw (Ebrill 1849) mewn tafarn rhwng Mathry a Thre Newydd, a'i gladdu yn Llanhywel; a bu amgylchiadau'r marw hwnnw yn destun ymdderu rhwng offeiriaid a phregethwyr yng ngholofnau'r Haul a Chymro Bangor am fisoedd lawer ynghylch y tosturi a ddangoswyd ato gan rai a'r tosturi (meddir) na ddangoswyd gan eraill.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.