Fe wnaethoch chi chwilio am *
Ganwyd 18 Chwefror 1856, yn Nhalybont, Sir Aberteifi. Fe'i magwyd yn naws diwygiad 1859. Dechreuodd bregethu 27 Hydref 1872. Aeth at R. M. Humphreys ei frawd i lofa yn y Gilfach Goch am ysbaid. Llwyddodd i fyned i athrofa Llangollen yn 1884 - y cyntaf i ennill ysgoloriaeth Dr. Prichard a'r cyntaf i gael pedair blynedd yno. Ordeiniwyd ef gyda'r Cymry ym Manceinion yn 1878. Mynychai rai dosbarthiadau yng Ngholeg Lancashire ac Owen's College, gan gipio'r ail le mewn Hebraeg. O Awst 1889 hyd ei ymddeoliad, oblegid anhwyldeb, yn 1929, bugeiliai eglwys Felinfoel, Llanelli. Bu farw 19 Medi 1934. Traddododd anerchiad o gadair yr Undeb (1926), ' Y Bedyddwyr: Eu Hegwyddorion Gwahaniaethol a 'u Rhagolygon.' Bu'n golygu Seren yr Ysgol Sul am flynyddoedd. Cafodd gynnig golygu Seren Gomer, ond nis derbyniodd. Diwinydd, esboniwr, a hanesydd oedd, fel y praw ei esboniadau ar epistolau Paul at y Philippiaid a'r Colossiaid, Hanes Bedyddwyr Felinfoel, 1909, a'r pamffledyn, John Myles, 1913.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.