IEUAN BRECHFA (bu farw tua 1500?), bardd ac achyddwr
Enw: Ieuan Brechfa
Dyddiad marw: tua 1500?
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac achyddwr
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker
brodor o Brechfa yn Sir Gaerfyrddin. Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd, ond cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Yn ôl pob tebyg y mae rhan o Pen. MS. 131 (199-308), llawysgrif achau, yn llaw'r bardd. Ceir cyfeiriadau mewn gwahanol lawysgrifau eraill hefyd at ei lyfr achau, sef yn Pen. MSS. 128, 132, 133, 139, 140, 176 (gweler R.W.M.). Ceir brut a briodolir iddo yn y Myv. Arch. Canodd Iorwerth Fynglwyd osteg o englynion yn haeru i'r 'chwal' lyncu Ieuan pan oedd ym mhriodas merch Syr Rhys ap Tomas.
Awdur
Ffynonellau
- Jones a Lewis, Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau (1928)
- Archifau LlGC: Llanstephan MS 7: The poetrical works of Lewis Glyn Cothi, Ieuan Brechfa and others (1, 4, 7, 11, 15, 18, 22, 25, 29, 35, 38, 103, 161, 257, 351, 352)
-
NLW MSS 728 (5); 13064 (5)
-
Reports on Manuscripts in the Welsh Language (1898–1910), 1, ii, 786, 802, 803, 812, 826, 831-2, 880, 893, 978
-
The Myvyrian Archaiology of Wales, 1870, 716
- Cymru yn hanesyddol, parthedegol, a bywgraphyddol (1875)
- J. Davies, Antiquæ linguæ Britannicæ et linguæ Latinæ, dictionarium duplex (1632)
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q20733268
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/