IEUAN BRYDYDD HIR (Yr HYNAF) (fl. c. 1450), bardd
Enw: Ieuan Brydydd Hir
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth
Awdur: Ray Looker
dywedir ei fod yn frodor o Ardudwy yn Sir Feirionnydd. Ni wyddys dim pendant o'i hanes, ond cadwyd llawer o'i waith mewn llawysgrifau, ac argraffwyd o leiaf ddau o'i gywyddau. Ymhlith ei farddoniaeth ceir awdlau i Dduw, cywydd i Dduw a'r Forwyn Fair, cywydd i Wenfrewi S., cywydd a wnaeth y bardd yn ei henaint, cywydd i ofyn tarw, a dau gywydd ymryson â'r bardd Tudur Penllyn.
Awdur
Ffynonellau
- Jones a Lewis, Mynegai i Farddoniaeth y Llawysgrifau (1928)
- Llawysgrif Bodewryd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 1
- Llawysgrifau Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 1, 4, 5
- Llawysgrifau Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 114, 206, 244
- Llawysgrif Gwysaney yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 25
- Llawysgrifau Plas Nantglyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 2
- NLW MSS 435-6, 695, 722, 1024, 1247, 3487, 6471, 6499. 7191, 9166, 11816, 13071
- Llawysgrif Sotheby yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth C. 2
- Swansea Manuscripts 2, 3
- Y Brython, 1861, iv, 35 - priodolir yr ail gywydd yn anghywir i Evan Evans yma ac yn Almanac W. Hywel (Llanidloes 1773), Llanidloes, 1773
- H. Blackwell, NLW MSS 9251-9277A: A Dictionary of Welsh Biography
- Edward Davies, Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion, hen a diweddar, yn gelfyddydwyr, beirdd, gwyddonwyr, pregethwyr, 1870
- J. Davies, Antiquæ linguæ Britannicæ et linguæ Latinæ, dictionarium duplex (1632)
- T. R. Roberts, Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the present (1908)
- Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru (1870)
- William Owen Pughe, The Cambrian Biography (1803)
- Abraham Jenkins, 'The Works of Tudur Penllyn and Ieuan Brydydd Hir Hynaf' (traethawd M.A. Prifysgol Cymru, 1921)
Darllen Pellach
- Erthygl Wicipedia: Ieuan Brydydd Hir Hynaf
Dolenni Ychwanegol
- Wikidata: Q13637528
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/