IEUAN ap IEUAN ap MADOG (fl. 1547-87), copïydd llawysgrifau

Enw: Ieuan ap Ieuan ap Madog
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: copïydd llawysgrifau
Maes gweithgaredd: Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Evan David Jones

Ceir y cyfeiriad cyntaf ato yn 1547, pan brynodd dyddyn a elwid Tire nant y Krynwyth ym mhlwyf Llangynwyd, Sir Forgannwg. Y pryd hwnnw preswyliai ym mhlwyf y Betws, lle yr oedd gan ei dad a'i frodyr ryw gymaint o ffermydd. Perthynai i gylch pwysig o gopïwyr llawysgrifau ym Morgannwg ar derfyn yr 16eg ganrif. Ef, yn 1574, a ysgrifennodd lawysgrif Llanstephan 171 sy'n cynnwys testunau rhyddiaith fel ' Ystori Owain ab Urien,' ' Ystori y Llong Foel,' a ' Saith Doethion Rhufain.' Ef hefyd a ysgrifennodd y copi anghyflawn o'r ' Marchog Crwydrad ' yn llawysgrif Llanstephan 178. Dywedai Egerton Phillimore mai o gylch 1575 yr ysgrifennwyd hon, ond y mae'n rhaid ei gosod ryw 10 mlynedd yn ddiweddarach. Cyhoeddwyd Le Voyage du chevalier errant, gan Jehan de Cartheny, yn Antwerp yn 1557. Cyfieithwyd ef yn Saesneg gan William Goodyear a chyhoeddwyd y cyfieithiad am y tro cyntaf yn 1581. Cydnebydd y copïydd mai o gyfieithiad Saesneg Goodyear y cymerwyd y testun Cymraeg. Yr oedd papurau eraill yn llaw Ieuan ab Ieuan wedi eu gwnïo yng nghlawr y llawysgrif hon. Gwahanwyd hwy yn ystod y ganrif ddiwethaf, ond y maent ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol (NLW MS 280D a dogfen Lloyd Verney Rhif 20). Cynhwysant gyfrifon trethiant yn Llangynwyd yn 1584, copïau o weddïau yn cynnwys 'Llurig Siarls,' 'Emyn Curig,' a manylion am hynafiaid y copïydd. Gyda hwy hefyd y mae ymrwymiad gan Ieuan ab Ieuan i dalu swm o arian i Antoni Powel, Llwydarth, yn 1587.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.