PHILLIMORE, EGERTON GRENVILLE BAGOT (1856 - 1937), ysgolhaig

Enw: Egerton Grenville Bagot Phillimore
Dyddiad geni: 1856
Dyddiad marw: 1937
Priod: Susan Elizabeth Phillimore (née Roscoe)
Priod: Marian Catherine Phillimore (née Owen)
Plentyn: John George Phillimore
Plentyn: Rosalind Margaret Phillimore
Rhiant: Rosalind Margaret Phillimore (née Knight-Bruce)
Rhiant: John George Phillimore
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Bertie George Charles

Ganwyd 20 Rhagfyr 1856 yn 21 Chester Square, Llundain, mab John George Phillimore (a fu farw 1865), Shiplake House, ger Henley-on-Thames, Q.C., awdurdod adnabyddus ar gyfraith eglwysig (fel eraill o'r teulu), aelod seneddol Rhyddfrydol dros Lanllieni (1852-7), a'i wraig Rosalind Margaret, merch ieuengaf yr arglwydd farnwr Knight-Bruce. Derbyniodd ei addysg yn Windersham House, Amesbury, yn Ysgol Westminster, ac yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, gan raddio yn B.A. yn 1879, ac yn M.A. yn 1883. Yn 1877 derbyniwyd ef i'r Middle Temple.

Priododd (1), 1880, â Susan Elizabeth (bu farw 1893), merch hynaf Richard Barnes Roscoe, Accrington (a ganwyd iddynt un mab a thair merch); (2), 1897, â Marian Catherine (a fu farw 1904), merch Richard Owen, o sir Fôn a Lerpwl. Ar ochr ei dad arddelai berthynas â theulu Salusbury a Bagot o Fachymbyd a thrwy ei fam yr oedd cysylltiad agos rhyngddo a theuluoedd Bruce a Knight, Bro Morgannwg a Dyfnaint.

Yn y Brifysgol, a hefyd ar ôl ymadael oddi yno, enynnwyd ei ddiddordeb mewn astudiaethau Cymraeg dan ddylanwad a chyfeillgarwch John Rhys, J. Loth, Whitley Stokes, ac ysgolheigion eraill. Dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 1880 a meistrolodd yr iaith yn drwyadl. Ar ddechrau'i yrfa bu'n byw bywyd gwr bonheddig yn Shipley hyd oni orfu iddo werthu ei dreftadaeth i'w gefnder yr arglwydd Phillimore. Effeithiodd prinder arian a gofidiau eraill gryn dipyn arno, yn enwedig ar ôl ei ail briodas. Meddai ar wybodaeth fanwl o Gymru, ei hiaith a'i hanes, a bu'n aros mewn gwahanol rannau o'r wlad cyn ymgartrefu'n derfynol, c.1903, yng Nghorris, Sir Feirionnydd, lle y treuliodd weddill ei oes, ar ei ben ei hun, ymhlith ei hoff lyfrau a'i gathod.

Yr oedd ganddo lyfrgell dda, a chasgliad o lawysgrifau Cymraeg sydd bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol. Bu wrthi'n astudio pynciau Celtaidd trwy'i oes a chyhoeddodd ysgrifau a nodiadau dysgedig ar hanes cynnar Cymru, ei daearyddiaeth, enwau lleoedd, enwau personau, a'i chwedloniaeth. Mewn cylchgronau a gweithiau pobl eraill gan mwyaf y gwelir ffrwyth ei ysgolheictod wych - yn Owen, Pembrokeshire, Gossiping Guide to Wales, Bye-Gones, Y Cymmrodor, a'r Archaeologia Cambrensis. Casgliad o lenyddiaeth Gymreig anllad, Welsh Aedoeology, a gyhoeddwyd yn yr Almaen, yw'r unig gyfrol sy'n dwyn ei enw ef ei hun (gweler Studia Celtica, 6 (1971), 99-102).

Efe oedd golygydd Y Cymmrodor o 1889 hyd 1891. Siomedig braidd yw swm ei gynnyrch llenyddol, a chollwyd stôr o ddysgeidiaeth y gwr hynod hwn pan fu farw yng Nghorris, 5 Mehefin 1937.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.