JAMES, DAVID (1863 - 1929) ac EVAN (bu farw tua 1920), chwaraewyr pêl droed (Rygbi)

Enw: David James
Dyddiad geni: 1863
Dyddiad marw: 1929
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: chwaraewyr pêl droed (Rygbi)
Maes gweithgaredd: Chwaraeon a Gweithgareddau Hamdden
Awdur: Moelwyn Idwal Williams

hanerwyr nodedig iawn a chwaraeai dros Abertawe. Fel pâr yn hytrach nag fel unigolion yr enillasant glod, a hwy a gychwynnodd y cynllun chwarae 'hanerwyr' a ddatblygwyd i gymaint bri wedyn gan R. M. Owen, Richard Jones, a W. J. Trew. Chwaraeodd y ddau frawd dros Gymru, ond ymadawsant i Ogledd Lloegr fel chwaraewyr llog. Dychwelasant i Gymru 'n ddiweddarach, a chwarae dros Abertawe - a thros Gymru yn 1899. Bu David James farw 2 Ionawr 1929.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.