Addysgwyd ef yn Ystrad Wallter neu Abertawe. Ordeiniwyd ef yn Llanybri, 1688. Estynnwyd rhodd iddo o ddwy bunt gan y Bwrdd Presbyteraidd (16 Ionawr 1690) i'w galonogi yn ei waith yn y Cruglas (Panteg). Ategir ei fod yn y Cruglas yng nghofnodion yr ' Common Fund ' neu'r Bwrdd Presbyteraidd (1690-2), a'i fod yn rhyddddeiliad ac wedi derbyn punt o gydnabyddiaeth gan ei gynulleidfa. Yr oedd yn bresennol yn Nhirdoncyn, 17 Tachwedd 1697, ar ddydd neilltuo Llewelyn Bevan i Gwmllynfell a Gellionnen. Yn ôl adroddiad wardeiniaid plwyf Henllan Amgoed (4 Medi 1705) pregethai i gynulleidfa Lewis Thomas - plaid y Calfiniaid. Bu farw yn y flwyddyn honno.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.