JAMES, Syr WILLIAM MILBOURNE (1807 - 1881), arglwydd ustus

Enw: William Milbourne James
Dyddiad geni: 1807
Dyddiad marw: 1881
Priod: Maria James (née Otter)
Rhiant: Christopher James
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arglwydd ustus
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Walter Thomas Morgan

mab Christopher James, masnachwr cefnog ym Merthyr Tydfil, a oedd yn frawd i William James (gweler James, C. H.); ganwyd ym Merthyr, 1807. Addysgwyd ef yn ysgol y Parch. John James, Gellionnen, gweinidog Undodaidd, ac ym Mhrifysgol Glasgow. Galwyd ef i'r Bar o Lincoln's Inn yn 1831. Bu am rai blynyddoedd yn ymarfer ar gylchdaith De Cymru, ond wedyn canolbwyntiodd ar ei fusnes siansri enfawr. Yn 1846 priododd Maria, merch Dr. Otter, esgob Chichester. Gwnaed ef yn farchog yn 1869 a phenodwyd ef yn arglwydd ustus apêl yn 1870. Yr oedd yn Rhyddfrydwr brwd ac awgrymwyd ef fel ymgeisydd am sedd Merthyr pan ddewiswyd ei gefnder, C. H. James, yn 1880, ond yr oedd wedi colli cysylltiad â materion Cymreig ac ni ddangosodd erioed lawer o ddiddordeb ym mudiadau cenedlaethol Cymru. Bu farw yn ei gartref yn Llundain 7 Mehefin 1881.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.