mab ieuaf William James, bragwr, Merthyr Tydfil, a oedd yn frawd i Christopher James (gweler James, W. Milbourne); ganwyd ym Merthyr 16 Mehefin 1817. Addysgwyd ef yn ysgol Taliesin Williams ym Merthyr ac yn ysgol breswyl Goulstone ym Mryste. Pan ymadawodd â'r ysgol aeth i'w hyfforddi yn gyfreithiwr at William Perkins, a daeth wedyn yn bartner iddo; derbyniwyd ef yn gyfreithiwr yn 1838. Priododd Sarah, merch Thomas Thomas, sylfaenydd cwmni sebon Christopher Thomas, Bryste. Cymerodd ran amlwg ym mywyd dinesig Merthyr; bu'n gadeirydd y pwyllgor gwyddoniaeth a chelfyddyd ac yn gefnogydd brwd i lyfrgell y dref. Magwyd ef yn Wesle ond trodd at yr Undodwyr a bu yn llywydd y gymdeithasfa Undodaidd. Ef oedd un o brif noddwyr Henry Richard yn 1868, ac yn 1880 daeth yn gyd-aelod ag ef dros fwrdeisdref Merthyr. Ymneilltuodd yn 1888, ac etholwyd D. A. Thomas, Arglwydd Rhondda, yn ei le. Bu farw ym Merthyr 3 Hydref 1890.
Yn 1892 cyhoeddwyd tair gyfrol o'i eiddo, Seven Lectures on Various Subjects, Letters … giving a Description of the House of Commons, a What I remember about myself and Old Merthyr.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.