Ganwyd 18 Gorffennaf 1827, yn Llansawel, Sir Gaerfyrddin, mab Thomas a Sarah James. Symudodd gyda'i dad i Ddowlais yn 1842, ymaelododd yn Hermon, a dechreuodd bregethu yno. Addysgwyd ef yn ysgol Ffrwd-fâl, Trefeca, a Phrifysgol Glasgow - lle y graddiodd yn M.A. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Castellnewydd Emlyn, 1861, ac ymsefydlodd yn Llanelli, lle bu'n cadw ysgol ramadeg am dymor. Bugeiliodd yr eglwys yng Nghapel Newydd ar hyd ei oes. Ysgrifennodd lawer i'r Drysorfa a'r Cylchgrawn; bu'n cydolygu 'r olaf gydag Edward Matthews ac ' Islwyn.' Yr oedd yn bregethwr grymus a goleuedig, ac yn arweinydd craff i'w gyfundeb. Ef, yn anad neb, a sefydlodd y fugeiliaeth eglwysig ymhlith Methodistiaid Sir Gaerfyrddin. Bu farw yn Llanelli, 27 Medi 1899. Cyhoeddwyd nifer o'i bregethau yn ei Gyfrol Goffa, 1901.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/