Ganwyd yn Llanfachraeth, Môn, yn fab i John a Margaret James, ac yn frawd i Edward James, Nefyn. Annibynwyr oedd ei deulu, ond ymaelododd ef gyda'r Bedyddwyr ym Mhont-yr-arw yng nghyfnod gweinidogaeth John Jones ('Mathetes'), ac ef oedd un o'r chwe myfyriwr cyntaf i'w derbyn i Goleg Llangollen. Ordeiniwyd ef yn Hebron, Dowlais, 1865, a symudodd i'r Tabernacl, Merthyr, 1872, Ebeneser, Aberafan, 1878, Edwardsdale, Pa., U.D.A., 1887, Rhosllannerchrugog, 1890, a Blaenclydach, 1893. Etholwyd ef yn ysgrifennydd a goruchwyliwr Cymdeithas Genhadol Gartrefol Bedyddwyr Cymru yn 1900, ond ni bu llwyddiant ar y gwaith ac ymddiswyddodd yntau. Bu am beth amser yn gofalu am eglwysi Barri a Godreaman ac ymsefydlodd ym Methania, Porth, yn 1905. Collodd ei iechyd a mynd i fyw i Ben-coed, ger Penybont-ar-Ogwr, lle y bu farw 18 Gorffennaf 1910.
Ym Merthyr bu'n aelod o'r bwrdd ysgol, ac yn Aberafan cododd ysgol Frutanaidd newydd ac ail-adeiladu capel Ebeneser. Bu'n cystadlu llawer mewn eisteddfodau, a ffugenw ar draethawd oedd yr enw ' Waldo ' i ddechrau. Bu'n gofalu am argraffiad i'r De o'r Herald Cymraeg, a chyhoeddodd Adnodau Dyrys y Testament Newydd, 1887; Blinder Diweddaraf yr Eglwysi … Anerchiad …, 1883; ac Esboniad y Bobl. Yr Efengyl yn ol Marc, 1895. Priodolir iddo hefyd lawlyfr cyfarfodydd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.