Ganwyd yn Llanfachraeth, Môn, 12 Mehefin 1839, yn blentyn hynaf John a Margaret James, a brawd O. Waldo James. Ymaelododd ym Modedern yn 1853, a chodwyd ef i bregethu yn y Tabernacl, Caergybi, yn 1858, dan weinidogaeth William Griffith. Yn 1859, ar gais ei gyfaill William Ambrose ('Emrys'), Porthmadog, aeth i'r Gorseddau, ger Penmorfa, Sir Gaernarfon, i bregethu a chadw ysgol i'r gweithwyr llechi. Derbyniodd alwad i Lanaelhaearn a Sardis (Llangybi) yn 1860 ac ordeiniwyd ef i'r weinidogaeth yno, 31 Gorffennaf-1 Awst 1861. Symudodd i Nefyn a'r Morfa yn 1872, ac yno y bu hyd ei ymddiswyddiad oherwydd afiechyd yn 1897. Bu farw 21 Rhagfyr 1904, wedi cystudd maith.
Un o wŷr enwocaf ei enwad oedd ' James Nefyn.' Gwnaed tysteb enwadol iddo yn 1893, ac etholwyd ef yn llywydd Undeb Annibynwyr Cymru yn 1894. Cyhoeddodd (1) Ffyddlondeb Crefyddol, sef Pregeth … (Bethesda, 1866), a (2) Amrywiol Bregethau … (Dolgellau, 1900), yn cynnwys ei anerchiad i'r Undeb yn 1894 ar ' Yr Annibynwyr Cymreig yn y Dywysogaeth a Threfi Seisonig.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.