JAMES, WILLIAM (1848 - 1907), gweinidog Undodaidd, ysgolfeistr, a dyn cyhoeddus

Enw: William James
Dyddiad geni: 1848
Dyddiad marw: 1907
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Undodaidd, ysgolfeistr, a dyn cyhoeddus
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Thomas Oswald Williams

Ganwyd yng Nghamnantfach, Pontshan, Llandysul, 13 Ebrill 1848, a gwyddai felly am etholiad '68 a'r troi allan. Cafodd ei addysg yn ysgol Pontshan dan Thomas Thomas, ac aeth i Goleg Caerfyrddin yn 15 oed - Caerfyrddin (1863-6); Manchester New College, Llundain (1866-9); Edinburgh (1869-70); graddiodd yn B.A. Llundain yn 1871.

Bu'n athro cynorthwyol i T. Thomas (1870-1) ac i G. Heaviside, Coventry, 1872. Cafodd alwad i ofalu am Hen-Dy-Cwrdd Aberdâr yn 1873 yn ystod afiechyd Rees Jenkin Jones. Ymhen chwe mlynedd derbyniodd alwad i fugeilio eglwysi Llwynrhydowen, Bwlchyfadfa, a Llandysul. Ni bu yma ond am wyth mlynedd oherwydd afiechyd. Gadawodd y pulpud gan droi i fyd masnach, ond ni pheidiodd â phregethu. Digon yw sôn amdano fel ysgolfeistr (1873-83); fel arholwr yng Ngholeg Caerfyrddin (1882-7); fel ustus heddwch a dyn cyhoeddus, er mwyn dangos lawned ei fywyd ymhob cyfeiriad. Daeth â dylanwad meddwl mawr Martineau, yng nghamre ' Gwilym Marles,' i'w enwad a'i ardal. Yr oedd ganddo feddwl diwylliedig a chalon fawr.

Bu'n ysgrifennydd a llywydd y Gymdeithas Undodaidd a chyhoeddodd ei araith o'r gadair, Crefydd Cymru a'r dyfodol, 1895, a golygodd Gwersi ar fywyd Iesu Grist, 1897-9; 1900-1. Ysgrifennodd lawer i'r Ymofynydd, a chofir am erthyglau ' Nyth y Fran '; bu'n gyd-olygydd, 1903-7.

Bu farw 26 Hydref 1907 a chladdwyd ef ym mynwent Pantydefaid.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.