Mab Richard Jones, yswain ac ustus heddwch, o Lanmihangel (ar Elai), Morgannwg, a Jane ei wraig, ferch Thomas Bassett, o Frofiscin. Aeth Bassett i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1634, ac yna i Brifysgol Franeker yn yr Iseldiroedd, a mannau eraill ar y Cyfandir, lle bu'n astudio anianeg a chemeg. Dychwelodd adref, ac yn 1648 (blwyddyn brwydr Sain Ffagan) cyhoeddwyd yn Rhydychen ei Lapis chymicus philosophorum examini subjectus. Bu iddo ran yng nghweryl ei deulu â'r cyrnol Philip Jones ynglyn â stad Wrinston, Morgannwg, a chyhoeddwyd dogfennau'r helynt yn 1654 gan gynnwys apêl Bassett Jones at Cromwell, a'i sylwadau ar ateb Philip Jones. Yn 1659 cyhoeddwyd ei Hermaelogium, or, an Essay at the Rationality of the Art of Speaking, As a supplement to Lillie's Grammer [sic], philosophically, mythologically and emblematically offered by B.J. (Llundain).
Gwraig Bassett Jones oedd Catherine, ferch William Lloyd. Os o sir Frycheiniog yr oedd hon, yna fe esbonnir hwyrach y cyfeiriad gan G. T. Clark at ei feddiant o diroedd ym Mhencelli, sir Frycheiniog, er nad oes gan Theophilus Jones gyfeiriad at hyn. Yn ôl ewyllys Richard (bu farw 1659), tad Bassett Jones, yr oedd gan Bassett fab o'r enw Thomas Jones o ryw Marie Hughes, a merch o'r enw Marie Jones o ryw Katherine Miles. Yn ôl achau'r Golden Grove Book ni chafodd blant o'i wraig Katherine Lloyd.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.