Ganwyd yn 1788 yn fab i William Jones, Treddaniel, un o ddiaconiaid cyntaf y Bedyddwyr yng Nghaergybi, ac Elizabeth Roberts, merch William Roberts, y Garregfawr. Bedyddiwyd ef yng Nghaergybi gan Christmas Evans yn 1811, ac yno y treuliodd ei oes, fel dilledydd, hyd ei farwolaeth ar 19 Chwefror 1841. Priododd, 12 Hydref 1810, Mary, merch Edward Parry o Gaergybi, a ganed iddynt 13 o blant.
Cofir ef yn bennaf am ei ddadleuon bedydd â David Owen ('Brutus') a Michael Roberts, Pwllheli. Sgrifennodd i Seren Gomer, a chyhoeddodd Athrawiaeth Bedydd, 1830; Y Cronicl, neu Draethawd ar Fedydd, 1831; Temperance v. Teetotalism, 1838; An Elegy on the death of Benjamin B. Jones, the eldest surviving child of B. Jones of Holyhead, 1824; ac Amddiffyniad o Brynedigaeth Neillduol, 1832, yr olaf yn gyfieithiad o Saesneg William Rushton, ieu., Lerpwl. Cadwyd amryw o'i lawysgrifau personol yng nghasgliad William Roberts ('Nefydd') yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn eu plith ddarn o hanes y Bedyddwyr ym Môn.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.