Ganwyd ym Mhant-y-blawd (neu ' Brynblawd'), Llanfihangel Cilfargen; yr oedd yn or-ŵyr i Thomas Williams, gweinidog Capel Isaac, ac yn yr eglwys honno y magwyd yntau. Cafodd addysg dda, ac yr oedd yn fedrus iawn fel meddyg anifeiliaid - yn ôl ' Gwilym Lleyn ' (yn Enw F.) cyhoeddodd lyfr, Y Ceffyl. Wedi iddo briodi ac ymsefydlu ar ei dyddyn ei hun, Pantarfon, y dechreuodd bregethu, ac ar 3 Gorffennaf 1822 galwyd ef i fugeilio eglwys Gwynfe, a oedd gryn bellter o'i gartref; bu cynnydd mawr yn yr eglwys dan ei weinidogaeth. Bu'n fugail arni hyd ei farwolaeth, ond byddai hefyd yn gofalu am eglwysi eraill dros dro, megis Capel Isaac (1832-42) a Chrug-y-bar (1826-9); ac efe yn bennaf a sefydlodd eglwys Siloam, Pont-ar-Gothi (1822). Cyhoeddwyd ysgrifau ganddo yn Lleuad yr Oes, Yr Efangylydd, a'r Diwygiwr. Bu farw ym Mhantarfon, 29 Ebrill 1859, yn 71 oed, a chladdwyd yng Nghapel Isaac.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.