Ganwyd yn Cae-garw, Dyffryn Ardudwy, yn fab i John a Gwen Jones. Bu farw ei dad pan nad oedd ef ond plentyn, a bu'n gweithio ar ffermydd hyd 1853, pan aeth i Goleg y Bala i'w hyfforddi at fod yn athro ysgol. Bu wedyn yng ngholeg hyfforddi Borough Road, ac am dymor byr yn athro ysgol ym Mlaenau Ffestiniog; ond yn 1854 cafodd ysgol yn Llanllechid, lle y priododd ag Elizabeth Roberts o'r lle hwnnw. Rhoes ei ysgol i fyny yn 1879, a symud i Fangor, gan ymaelodi yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Hirael. Priododd yr eilwaith, â merch i John Owen, Ty'nllwyn (1808 - 1876). Yn 73 oed, aeth i fyw i'r Felinheli; bu farw 1 Mawrth 1902, a chladdwyd ym mynwent y Tai-duon, Pant Glas. Heblaw nifer o lawlyfrau at wasanaeth yr ysgolion Sul, a'i brif waith a enwyd uchod, dylid enwi ei Hanes Dechreuad a Chynydd y Methodistiaid Calfinaidd yn Llanllechid, 1891, a'r gyfres o ysgrifau ar hen argraffwyr Cymru, yn Y Traethodydd, na chwplaodd ond dwy ohonynt (argraffwyr Caernarfon, Gorffennaf 1901; argraffwyr Bangor, Ionawr 1902) Ymddiddorai'n ddirfawr yn hanes y cyfundeb y bu'n flaenor ynddo am 43 mlynedd o'r bron; yr oedd wedi casglu llawer o fanylion ar hanes eglwysi Methodistiaid Calfinaidd Bangor a'r cylch, a defnyddiwyd y rhain gan William Hobley yn y chweched gyfrol o Hanes Methodistiaeth Arfon, 1924.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.