Ganwyd yn Bagillt, Sir y Fflint, yn 1839. Prentisiwyd ef gyda P.M. Evans, argraffydd a chyhoeddwr, Holywell. Yn 1867 aeth i swyddfa David Roberts, masnachydd coed, Lerpwl, ac yn ystod ei dymor yn y ddinas honno dechreuodd bregethu, a bu â'i fryd ar y weinidogaeth gyda'r Methodistiaid Calfinaidd; ond newidiodd ei lwybr a phenderfynodd fyned yn newyddiadurwr. Yn 1872 penodwyd ef yn olygydd y Caernarvon and Denbigh Herald yng Nghaernarfon, a phan fu farw John James Hughes ('Alfardd'), golygydd Yr Herald Cymraeg, yn 1875, rhoddwyd gofal y papur hwnnw arno hefyd, ond ymneilltuodd o'r ofalaeth honno yn 1879. Bu am dymor hefyd yn golygu Y Darlunydd, cyhoeddiad misol o'r un swyddfa, ac yn ysgrifennu iddo dan y ffugenw ' Y Cwilsyn Gwyn.' Ysgrifennodd gyfres o ysgrifau i blant i Trysorfa y Plant, dan y pennawd ' Huw Huws y Go' a Ninnau,' gan ddechrau yn rhifyn Chwefror 1862. Yr unig enw wrth y rhai hyn oedd ' Sir Fflint O'n Ty Ni.' Ystyrid ef yn olygydd dylanwadol, ond nid oedd yn bersonol adnabyddus ond i ychydig. Bu farw ym mis Mehefin 1893, a chladdwyd ym mynwent Llanbeblig, Caernarfon.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.