Ganwyd 6 Ionawr 1832 yn y Forge, Pen-y-cae, sir Fynwy, mab Gruffydd a Hannah Jones. Cafodd ei wersi mewn cerddoriaeth yn blentyn gan Rosser Beynon. Prentisiwyd ef yn saer, ond mewn cerddoriaeth yr ymddiddorai. Yn 16 oed penodwyd ef yn arweinydd y canu yn Sardis, Pontypridd, lle yr oedd ei dad yn weinidog. Yn 1850 dechreuodd anfon ei gyfansoddiadau i'r eisteddfodau, a chafodd ganmoliaeth y beirniaid. Enillodd y wobr allan o 22 o ymgeiswyr yn eisteddfod Bethesda (Merthyr Tydfil) ar gyfansoddi anthem, ' Wele fy ngwas a lwydda,' a gelwid am ei wasanaeth i feirniadu mewn eisteddfodau pwysig. Symudodd i fyw i Gaerdydd a dug allan yn 1858 Y Drysorfa Gorawl, yn cynnwys anthemau a darnau corawl; yr oedd yn gasgliad gwerthfawr, ond colled ariannol a fu i ' Tafalaw.' Aeth i fyw o Gaerdydd i Fynydd Cynffig, ac oddi yno i Gwmafon. Yn 1860 ymwelodd â Gogledd Cymru, ac ymsefydlodd yn ysgrifennydd cyfrinachol i Thomas Gee, Dinbych. Yn 1863 symudodd i fyw i Aberdâr, ac agorodd argraffdy i ddwyn allan y Gwyddonydd Cerddorol. Perfformiwyd ei gantawd, ' Gwarchae Harlech,' gan ' Côr Caradog ' yn 1865. Yn 1866 ymfudodd i U.D.A., ac yn 1867 ordeiniwyd ef yn weinidog eglwys Annibynnol Slatington. Yn 1869 penodwyd ef yn athro y celfau cain yng Ngholeg Emporia. Bu'n gweinidogaethu mewn amryw eglwysi. Bu farw 17 Mawrth 1898.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.