Ganwyd yn Tanrhiw, Llanycil, 21 Mai 1843; ei dad oedd John Jones, ac yr oedd ei fam Mary née Jones yn ŵyres i Ddafydd Cadwaladr. Bu yn ysgol ramadeg y Bala a hefyd, medd y coffad amdano yn Cennad Catholig Cymru, dan addysg breifat gan John Williams ('Ab Ithel'). Yn 1862 aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, gan fwriadu paratoi ar gyfer urddau yn Eglwys Loegr, ond ar 18 Hydref 1865, cyn cwpláu ei gwrs, derbyniwyd ef i Eglwys Rufain gan John Henry Newman. Bu'n efrydydd yng ngholeg diwinyddol S. Edmunds yn Ware ac yng Ngholeg Beuno Sant, coleg y Jesiwitiaid, yn Nhremeirchion, Sir y Fflint. Gwasnaethodd swydd diacon ym Mangor am dymor yn 1871, gan bregethu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cafodd lawn urddau yn 1872, ac ar Sul y Blodau y flwyddyn honno dechreuodd ar ei weinidogaeth hir yng Nghaernarfon, lle bu yn fawr ei barch gan bawb am 31 mlynedd. Yn 1908 penodwyd ef yn athro Cymraeg yng Ngholeg y Santes Fair yn Nhreffynnon, ac yno y bu farw, 15 Rhagfyr 1910. Cyfieithodd rai gweithiau defosiynol yn Gymraeg, yn eu plith y Llyfr Gweddi a gyhoeddwyd o dan nawdd Cymdeithas Teilo Sant, ac amryw emynau.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.