Ganwyd yn y Tŷ Du, Llanberis, Sir Gaernarfon, Ionawr 1849, mab Hugh ac Ellen Jones, a brawd i D. H. Jones ('Dewi Arfon'). Bu ei dad yn arweinydd y canu yn Capel Coch, Llanberis, am 60 mlynedd, a phenodwyd y mab yn gynorthwywr i'w dad yn 14 oed. Derbyniodd ei addysg gerddorol yn nosbarthiadau ' Ieuan Gwyllt,' a chafodd amryw dystysgrifau. Ar ôl gwasanaethu yn ddisgybl-athro yn ysgol Dolbadarn, aeth yn athro cynorthwyol i Ysgol Frutanaidd Aberystwyth. Yn 1869 symudodd i gadw ysgol elfennol Rhiwddolion, Betws-y-coed, a dechreuodd weithio yn egnïol gyda cherddoriaeth. Sefydlodd ddosbarthiadau solffa yng Nghapel Curig, Betws-y-coed, Penmachno, Ysbyty Ifan, Capel Garmon, a Dolwyddelan. Sefydlodd ac arweiniodd undeb corawl ym Metws-y-coed, a bu'n arweinydd y seindorf. Trefnodd 'operettas' i blant yr ysgol, a pherfformiwyd hwy yn llwyddiannus yn ardaloedd dyffryn Conwy. Yr oedd yn feirniad ac yn arweinydd cymanfaodd canu. Ef oedd y cyntaf yn Arfon i ddwyn offeryn cerdd i'r addoldy - capel Rhiwddolion. Ysgrifennodd amryw donau ac anthemau, ac erys ei dôn ' Llef,' M.H., yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Cyhoeddodd gasgliad o farddoniaeth ei frawd. Bu farw 26 Gorffennaf 1919, a chladdwyd ef ym mynwent Nant Peris, Llanberis.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.