Ganwyd 6 Gorffennaf 1833 yn y Ty Du, Llanberis, Sir Gaernarfon, yn fab i Hugh ac Ellen Jones. Ef oedd yr hynaf o bedwar o blant, a brawd iddo oedd Griffith Hugh Jones ('Gutyn Arfon') awdur y dôn 'Llef', a gyfansoddwyd er cof am 'Dewi Arfon'. Pan oedd Dewi Arfon tua phump oed aeth i ysgol a gynhelid gan wr o'r enw Ellis Thomas yn y Capel Coch, Llanberis. Ar ôl hynny bu mewn ysgol a gedwid gan John Evans, Ceunant Coch. Ymadawodd â'r ysgol yn un ar ddeg oed ac aeth gyda'i dad i weithio yn y chwarel. Astudiodd yn ddyfal yn ystod ei oriau hamdden a meistroli rheolau barddoniaeth, cerddoriaeth, rhifyddeg a gramadeg Cymraeg a Saesneg. Yng ngwanwyn 1853 cafodd oerfel a bu'n wael iawn ddechrau'r haf hwnnw. Dychwelodd i ysgol Frytanaidd Dolbadarn, a gedwid gan David Evans (Parch. David Evans, Dolgellau wedi hynny) gyda'r bwriad o ymbaratoi ar gyfer bod yn ysgolfeistr. Ar ôl ymgynghori â John Phillips, Bangor (1810 - 1867), penderfynodd fynd i Goleg Borough Road, Llundain, a rhoddwyd tysteb iddo yn Ionawr 1856 ar yr achlysur gan gymdeithas lenyddol y Capel Coch, Llanberis. Aeth i Goleg Borough Road ar ei gost ei hun ac ymhen blwyddyn enillodd dystysgrif athro, yn yr ail ddosbarth. Yna bu am bedair blynedd yn athro yn ysgol Frytanaidd Llanrwst, lle y daeth yn gyfeillgar iawn â Threbor Mai a beirdd eraill y cylch. Tra oedd yn Llanrwst y dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth. Ef oedd yr athro pan ddechreuodd John Lloyd Williams, y cerddor a'r llysieuydd, fel disgybl ynddi.
Tua therfyn y cyfnod hwn y dechreuodd bregethu. Ond yn y Capel Coch, Llanberis, ym Medi 1861 y codwyd ef i bregethu 'n swyddogol gan ei enwad, ac yn 1862 aeth yn ddisgybl i ysgol Eben Fardd yng Nghlynnog. Derbyniwyd ef fel pregethwr i holl gylch henaduriaeth Arfon yn 1863. Yn ystod gwaeledd Eben Fardd ymgymerodd â gwaith athro yn yr ysgol ac ef a olynodd Eben Fardd yn y swydd. Ordeiniwyd ef i waith cyflawn y weinidogaeth yng nghymdeithasfa Llangefni ym Mehefin 1867. Rhagorai ar Eben Fardd fel athro oherwydd ei ddull effro yn yr ysgol. Codwyd ysgoldy a thy ar ei gyfer, ond bu farw cyn mynd ohono i'r naill na'r llall.
Gwr bregus ei iechyd ydoedd a gorfu iddo adael Clynnog a dychwelyd adref i'r Ty Du, Llanberis, ac yno y bu farw fore'r Nadolig 1869. Claddwyd ef ym mynwent Nant Peris, a defnyddiwyd yr arian a gasglwyd yn dysteb iddo yn ystod ei waeledd i godi maen coffa ar ei fedd. Adroddir am ddigwyddiad hynod ynglyn â'i farwolaeth. Galwodd ei chwaer ato rhwng pump a chwech y bore a gofyn iddi osod y cloc larwm i daro am naw o'r gloch ac am naw i'r eiliad bu farw. Cyfrifid ef yn gerddor medrus er nad oedd yn lleisiwr, ac yr oedd yn boblogaidd iawn fel beirniad cerddoriaeth a barddoniaeth. Ystyrid ef yn fardd da, ac yn ôl ei gofiant safai ei awdl 'Tywylltiad yr Ysbryd Glân ar Ddydd y Pentecost' yn uchel yn y gystadleuaeth yn eisteddfod Dinbych 1860. Dengys dyfyniad o'r gerdd yn y feirniadaeth mai ef oedd Awenydd a ystyrid yn drydydd o'r pedwar ymgeisydd. Rhagorai Dewi Arfon fel englynwr, yn arbennig fel englynwr bedd-argraffiadau, a'i englyn mwyaf adnabyddus yw ei feddargraff i John Jones, Tal-y-sarn ('Clogwyni coleg anian' &c). Nid yw'r englyn hwnnw ar fedd John Jones ym mynwent Llanllyfni ond yn hytrach ar y gofgolofn ger Tanycastell, ei hen gartref yn Nolwyddelan.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.