JONES, NATHANIEL (CYNHAFAL) (1832 - 1905), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor

Enw: Nathaniel (Cynhafal) Jones
Dyddiad geni: 1832
Dyddiad marw: 1905
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Idwal Lewis

Ganwyd yn ardal Gellifor, Llangynhafal, sir Ddinbych, 19 Ebrill 1832. Yn gynnar, symudodd i'r Wyddgrug a gweithio'i grefft fel dilledydd yng ngweithdy Angel Jones, lle bu'n gydweithiwr â Daniel Owen am dymor. Yn 1855 symudodd i Dreffynnon, yn llyfrwerthwr teithiol yng ngwasanaeth P. M. Evans, y cyhoeddwr llyfrau. Dechreuodd bregethu yn 1859, a bu am ychydig mewn ysgol ramadeg a gedwid yn y dref. Yr un flwyddyn aeth i Goleg y Bala, a bu yno am bedair blynedd. Derbyniodd alwad eglwys Adwy'r Clawdd yn 1864. Symudodd oddi yno i Benrhyndeudraeth yn 1867, ac yna i Lanidloes yn 1875, a bu yno am 18 mlynedd. Bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd yn 1892 ac yn olygydd Y Drysorfa o 1892 hyd 1897. Yn 1892 ymgartrefodd yn y Rhyl heb ofal eglwys, ond, yn 1895, derbyniodd alwad eglwys Engedi, Bae Colwyn, ac yno y bu am saith mlynedd. Wedi ymneilltuo, bu'n byw yn Abergele, ac yna ym Mlaenau Ffestiniog, lle y bu farw 14 Rhagfyr 1905, a'i gladdu yn Abergele.

Dechreuodd ' Cynhafal ' lenydda'n gynnar a bu ef a John Davies ('Gwyneddon') yn cydolygu Charles o'r Bala , cylchgrawn at wasanaeth yr ysgol Sul. Cyfansoddodd lawer o farddoniaeth ac ymgeisiodd yn yr eisteddfod genedlaethol gan ddyfod yn ail am y gadair fwy nag unwaith. Cyhoeddodd gyfrolau o'i farddoniaeth: Fy Awenydd, 1859, Elias y Thesbiad, 1869, Y Mesiah 1895, Y Beibl, 1895, Charles o'r Bala, 1898. Yn 1881 ysgrifennodd ef a Richard Mills Buchdraeth y Parch. John Mills. Ei orchestwaith llenyddol oedd golygu Gweithiau Williams Pant y Celyn, yn ddwy gyfrol, 1887-91.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.