Ganwyd yng nghastell Ffonmon, mab Robert Jones (1681 - 1715?), aelod seneddol dros Forgannwg (1710, 1713, 1714), a gorŵyr i'r milwriad (colonel) Philip Jones. Addysgwyd ef yn Christ Church, Rhydychen, lle yr oedd yn gyfoed â Charles Wesley; ymaelododd ar 24 Ebrill 1724, ond dychwelodd i Ffonmon heb raddio. Yr oedd yn siryf Morgannwg yn 1729. Yn 1732 priododd Mary, merch Robert Forrest, Minehead, Gwlad-yr-haf; bu iddynt bump o blant, un bachgen a phedair merch. O bryd i bryd croesawodd Howel Harris a Charles Wesley i gastell Ffonmon, ond gan ei fod o blaid Arminiaeth, daeth yn gyfaill cadarn ac yn ddilynwr gweithgar i Wesley, gan arloesi'r ffordd iddo i bregethu mewn nifer o eglwysi Bro Morgannwg. Bu farw 8 Mehefin 1742, a chladdwyd ef ym Mhenmarc, Morgannwg.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.