Mynach o urdd S. Benedict ydoedd. Bu'n astudio yn Gloucester College (Worcester College yn awr), Rhydychen (B.D. 1525, D.D. 1538). Daeth yn brior ei goleg yn 1526 ac ymadael yn 1530 i fod yn abad Eynsham. Pan ddiddymwyd yr abaty yn 1539 cafodd bensiwn o £133 6s. 8d., a dyfod yn gaplan brenhinol yn fuan wedyn, ac, yn 1545, yn esgob Llandaf. Yn y palas esgobol ym Mathern yr oedd yn byw ac oddi yno y gweinyddai ei esgobaeth. Bu'n esgob o dan deyrnasiad pedwar o'r Tuduriaid, ac am hynny, ac oherwydd ei gyhuddo o ysbeilio ei esgobaeth, daethpwyd i feddwl yn ddrwg ohono. Yn wyneb holl ddadleuon crefyddol ei gyfnod mabwysiadodd ef fath o agwedd 'cui bono' a rhoes gyffelyb ryddid i eraill. Ymdrechodd yn galed ac yn amyneddgar i achub Rawlins White, y pysgodwr o Gaerdydd, rhag merthyrdod. Nid ydoedd yn erlidiwr fel y credai un gŵr eglwysig o fri. Ef ydoedd yr unig esgob yn nheyrnasiad Mari a wrthododd apelio at y pab am ollyngdod rhag sism.
Gan Rice Merrick yr achwynwyd gyntaf oll (1578) fod Kitchin yn ysbeilio'r esgobaeth; dywedai Merrick ei fod yn peri colli arian i'r esgobaeth ym mater prydlesoedd. Aeth yr esgob Godwin gam ymhellach (1603), gan ei gondemnio am werthu ffermydd yr esgobaeth a rhoi prydlesoedd ar eraill am 'extremely small payments.' Adroddir iddo fynd ag un brydles i Lundain a'i cholli. Ymddengys mai diffyg cynneddf dyn busnes yn hytrach na gwanc am elw oedd ei wendid. Amgylchynid ef gan wŷr ag ynddynt wanc am dir, ac nid oedd ei swyddogion, hwythau, yn ddifai; dylid cofio hefyd mai lleygwyr oedd y comisiynwyr a fu'n peri difodi'r siantrïau (1548) ac eiddo eglwysig (1552-3), ac iddynt hwythau, felly, ysbeilio'r esgobaeth. Gan iddo fedru anfon i'r archesgob Parker ar fyr rybudd (mewn llai na thair wythnos) adroddiad ynglŷn â'r plwyfi a'r offeiriad, y mae'n rhaid credu ei fod yn weinyddwr da a'i fod yn bur gyfarwydd a'i esgobaeth; dengys yr adroddiadau a wnaeth i Parker yn 1561 a 1563 fod gwellhad yn yr esgobaeth a chynnydd yn nifer yr offeiriaid plwyfol, a bod mwy o'r clerigwyr a oedd yn byw allan o'u plwyfi yn cyflogi curadiaid, Bu farw 31 Hydref 1563 ym Mathern ac yno y claddwyd ef.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.