un o'r tri a ferthyrwyd yng Nghymru yn ystod teyrnasiad y frenhines Mari (y ddau arall oedd Robert Ferrar, yr esgob, a William Nichol o Hwlffordd, na wyddys ddim ychwanegol amdano). Pysgotwr yng Nghaerdydd (o c. 1535) oedd White, a cheir y cofnod cyntaf amdano yn y ' Ministers Accounts ' am 1541-2. Yno disgrifir ef fel tenant hanner bwrdeisiaeth yn y stryd a oedd yn ymestyn o'r Porth Gorllewinol hyd at fur y dref o flaen ' le slauterhouse in Hom'by ' (= Womanby), h.y. yn y stryd a elwir heddiw Westgate Street. Yn y ' Ministers Accounts ' am 1542-3, deil ' the farm of five fishery hengis ' (hang-nets) ym maenor Roath. Yr oedd yn ŵr priod a chanddo blant. Er yn anllythrennog, dysgasai ar gof ddarnau o'r Beibl a ddarllenid iddo gan un o'i feibion. Troes at Brotestaniaeth, ac o'r herwydd carcharwyd ef yng Nghasgwent a Chaerdydd. Ceisiodd Anthony Kitchin, esgob Llandaf, yn daer ac yn garedig, ei berswadio i ymwrthod â'i ffydd, ond gwrthododd, a llosgwyd ef wrth y stanc yng Nghaerdydd, tua Mawrth 1555, yn ôl Foxe. Ar gofeb ddiweddar iddo yng nghapel Bethany, Caerdydd, rhoddir y dyddiad, 30 Mawrth, ond amheus yw'r dyddio manwl hwn. Ymddengys braidd yn hynod fod White a'r esgob Ferrar, wedi marw ar yr un diwrnod yn union mewn dau ganolfan gwahanol. Y mae hyd yn oed y flwyddyn yn amheus, a hwyrach mai 1556 oedd y gwir ddyddiad. Dywed Foxe fod White yn 70 oed, neu yn agos at hynny, pan fu farw.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.