Ganwyd yn Llwyngwern, plwyf Llanuwchllyn, Sir Feirionnydd, mab Cadwaladr Lewis ap Howel ap John a'i wraig Elizabeth ferch Ellis Fychan, Brynllech, plwyf Llanuwchllyn. Ychydig a wyddys am Ellis Lewis ar wahân i gyfeiriadau ato ef a'i dad yn y ' Subsidy Rolls,' etc. Priododd Ellen, ferch Robert Anwyl o'r Parc, plwyf Llanfrothen, a'i wraig Catrin, merch Syr John Owen, Clenennau, plwyf Penmorfa. Y mae ar gael ddogfen, 16 Awst 1641, yn dangos fod gan Ellis Lewis diroedd ym mhlwyfi Llanuwchllyn a Llanycil. Yn 1661 cyhoeddwyd Ystyriaethau Drexelius ar Dragwyddoldeb Gwedi eu cyfieithu yn gyntaf yn Saesonaeg gan Dr. R. Winterton, ac yr awrhon gan Ellis Lewis o'r' Llwyn-gwern yn Sir Feirion, Wr-bonheddig (Rhydychen, 1661).
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.