Ni wyddys unrhyw fanylion amdano, ond gan mai boneddigion sir Ddinbych a Sir y Fflint oedd gwrthrychau y rhan fwyaf o'i ganu mawl a marwnad, gellir tybio mai gŵr o'r rhan honno o Gymru ydoedd. Cadwyd peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, ac yn ei phlith gywyddau i Wiliam Mostyn o Fostyn, Pyrs Mostyn o Dalacre, Wiliam Holant o Hendrefawr, ac awdl i Domas Prys o Lanelwy; ceir dau gywydd crefyddol o'i waith hefyd, un ohonynt yn wrth-Babyddol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.