LLOYD, EVAN (1764 - 1847), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Undodaidd

Enw: Evan Lloyd
Dyddiad geni: 1764
Dyddiad marw: 1847
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr Undodaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd 21 Mawrth 1764 yn Nanhyfer; aelod gyda'r Bedyddwyr yn Aberteifi, a phregethwr cynorthwyol i William Williams (1732 - 1799) yno. Yr oedd yn y milisia pan diriodd y Ffrancwyr yn Abergwaun yn 1797. Nid ymddengys iddo ochri ar y dechrau â'r Bedyddwyr Arminaidd a ysgymunwyd yn 1799, oblegid urddwyd ef yn 1801 yn Ffynnon-henri (D. Jones, Hanes Bed. Deheubarth Cymru, 423, hefyd Yr Ymofynydd, 1847, 93), ond yn fuan iawn wedyn troes yn Armin a chollodd ei swydd; dywed ef ei hunan (atgofion, a gofnodwyd gan ei fab, yn Yr Ymofynydd, loc. cit.) iddo wrthod arwyddo cyffes ffydd y Bedyddwyr Neilltuol fel amod o dderbyn grant gan y ' Baptist Fund.' Ymunodd â'r Bedyddwyr Cyffredinol yn y Tŷ Coch yn nhref Aberteifi, a phenodwyd ef, yn ôl ei dystiolaeth ef ei hunan (loc. cit.), yn weinidog y Tŷ Coch gyda Soan (ger Blaen-y-waun) - tueddir rhai i amau hyn, ond ar y cyfan y mae'n ddigon tebygol. Sut bynnag, erbyn 1808 yr oedd Lloyd yn weinidog dwy eglwys fechan y Bedyddwyr Cyffredinol yn y Wig a'r Notais ym Mro Morgannwg; i bu yno hyd ei farwolaeth 30 Gorffennaf 1847. Gwelir ei enw'n weddol fynych yn y Monthly Repository, yn hanes cynadleddau'r Bedyddwyr Cyffredinol (pregethai ynddynt), ond hefyd yn adroddiadau cynadleddau'r Undodiaid. Gan fod y rhain yn agored hefyd i 'frodyr o weinidogion Ariaidd,' nid yw'n rhaid anghredu tystiolaeth y marwgoffa i Evan Lloyd yn Ymofynydd 1847, 48, ei fod dros ei 60 oed pan droes yn Undodwr pendant. Gellid meddwl ei fod yn ŵr hoffus, a mawr ei barch yn ei ardal - ar delerau da ag offeiriad y plwyf. Rhwng Evan Lloyd, a'i fab, a'i ŵyr, a disgynnydd arall iddo, bu'r tylwyth hwn yn weinidogion y Wig a'r Notais am 120 mlynedd (ar wahân i fwlch bychan o bum mlynedd) - gwelir enwau eraill o'r teulu yn y weinidogaeth Undodaidd mewn mannau eraill. Erys y ddau gapel hyd heddiw, yn ddau o'r tri chapel sydd eto'n arddel enw'r Bedyddwyr Cyffredinol yng Nghymru (gweler hefyd dan Thomas, William, a fu farw 1813).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.