Pumed mab Meredydd (Lloyd) ap John ap Maredydd Llwyd o Fiwmares; ganwyd yn Bryn Euryn, Llandrillo yn Rhos, a etifeddasai ei fam, Jonet Conwy, trwy ei thad, Hugh Conwy Vychan, a oedd yn disgyn o Marchudd, sefydlydd un o bymtheg llwyth Gwynedd. Yr oedd yn 'ysgolor' yn y King's School, Caer, 1575-9; aeth i Goleg Iesu, Caergrawnt, yn 1579, a graddiodd yn B.A. 1583, M.A. 1586, B.D. 1593, D.D. 1598. Cafodd gymrodoriaeth yng Ngholeg Magdalene, c. 1586, daeth yn rheithor Heswall, 1597-1613, ac yn rheithor Bangor Iscoed, 1612-5. Yn 1600 fe'i cysegrwyd yn esgob Sodor a Man, eithr yn Rhagfyr 1604 fe'i cyfnewidiodd am esgobaeth Caer; yno gwrthdroes bolisi gwrth- Biwritanaidd ei ragflaenydd Cymreig, Richard Vaughan, a fuasai'n esgob Bangor yn gynharach.
Bu farw 1 Awst 1615, a chladdwyd ef yn eglwys gadeiriol Caer, lle y mae arysgrif ar fur yn ei goffáu - gweler y geiriad yn Ormerod, Cheshire, arg. 1882, i, 192. Yn y flwyddyn y bu farw prynodd Pant Iocyn, gerllaw Wrecsam (cartref yr Almeriaid), a barhaodd yn gartref i'w deulu hyd 1634.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.