LLOYD, RICHARD (1771 - 1834), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Enw: Richard Lloyd
Dyddiad geni: 1771
Dyddiad marw: 1834
Rhiant: Jane Lloyd (née Prichard)
Rhiant: William Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Nantdaenog, Llantrisant, Môn, yn 1771, yn chweched plentyn i William Lloyd a'i wraig Jane, ferch yr hen Ymneilltuwr adnabyddus William Prichard o Glwch-dyrnog; ei daid o ochr ei dad oedd David Lloyd ap Rhys, o blwyf Heneglwys (J. E. Griffith, Pedigrees, 100); yn ei ysgrifau yng Ngoleuad Cymru, byddai Richard Lloyd yn ei alw'i hunan yn ' Rhisiart William Dafydd.' Ymunodd â seiat Fethodistaidd Gwalchmai yn 1789, a dechreuodd bregethu yn 1794. Priododd yn 1800, ac aeth i gadw siop ddillad ym Miwmares. Ordeiniwyd ef (fel ei gyd-ynyswr a'i gyfaill John Elias) yn ordeiniad 1811 yn y Bala. Bu farw 25 Mai 1834, yn 63 oed, a chladdwyd yn Llanfaes - claddwyd John Elias yntau wrth ei ochr. Disgrifir ef fel gŵr ffraeth a diddan, rhyw gymaint o fardd, a phregethwr da.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.