LLOYD, WILLIAM (1637 - 1710), esgob Llandaf, 1675-9

Enw: William Lloyd
Dyddiad geni: 1637
Dyddiad marw: 1710
Plentyn: Lloyd
Plentyn: John Lloyd
Rhiant: Edward Lloyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llandaf
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Richards

mab Edward Lloyd, rheithor Llangywer ym Meirionnydd. Bu yng Ngholeg S. John's, Caergrawnt, M.A. yn 1662, D.D. yn 1670. Yn 1675 daeth yn esgob Llandaf, y Cymro olaf i ddal yr esgobaeth honno am ddau can mlynedd. Fel prelad yr oedd yn ŵr manwl y tu hwnt, hyd yn oed dreng: rhoddodd ddeddfau Clarendon ar lawn waith yn erbyn Anghydffurfwyr, a chilwgai ar y gwritiau 'supersedeas,' gorchmynion a ddeuai o lys y siawnsri i arafu pethau; cilwgai hefyd ar glerigwyr a swyddogion annheilwng, gan fyned mor bell ag esgymuno prif gofrestrydd llys cabidwl Llandaf. Codwyd ef yn esgob Peterborough yn 1679, Norwich yn 1685. Damwain yn unig a'i rhwystrodd rhag ymuno ag esgob arall o'r un enw (Lloyd o Lanelwy) i wneud y 'Saith Esgob' yn wyth yn 1688. Pan ddaeth chwyldro ar safonau'r Cyfansoddiad yn 1689, gwrthododd Lloyd dyngu llw o ffyddlondeb i'r brenin newydd; ar ôl marw'r archesgob Sancroft, ef oedd pennaeth cydnabyddedig y 'Nonjurors' hyd ei farw ei hun yn 1 Ionawr 1709/10. Priododd ei fab John â merch ac aeres yr esgob Humphrey Humphreys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.