LLWYD, STEPHEN (1794 - 1854), cerddor

Enw: Stephen Llwyd
Dyddiad geni: 1794
Dyddiad marw: 1854
Rhiant: Elizabeth Llwyd
Rhiant: Joseph Llwyd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Crefydd; Cerddoriaeth
Awdur: Robert David Griffith

Ganwyd yn Llystyn-bach, Nanhyfer, Sir Benfro, yn y flwyddyn 1794, mab Joseph ac Elizabeth Llwyd. Cafodd beth addysg, a dygwyd ef i fyny'n deiliwr fel ei dad. Ei athro cerddorol oedd Dafydd Siencyn Morgan. Ymsefydlodd yn Abergwaun, a phenodwyd ef i arwain y canu yng nghapel y Bedyddwyr, a daeth yn adnabyddus trwy y sir fel cerddor. Yn 1840 symudodd i fyw i Bontypridd, a phenodwyd ef yn arweinydd canu yng nghapel Carmel. Cynhaliai ddosbarthiadau cerddorol a llafuriai yn ddiwyd gyda cherddoriaeth yn yr ardal, a rhoddodd gychwyn i amryw o gerddorion. Saif ei fri fel cyfansoddwr ar y dôn ' Caerllyngoed,' 7.6., a gyfrifir yn un o'r tonau gorau. Ymddangosodd gyntaf yn Seren Gomer, Mehefin 1822. Cyhoeddwyd y tonau ' Abergwaun,' ' Taf,' a ' Rhondda ' yn Seren Gomer, a ' Carol Nadolig,' wedi ei threfnu gan D. Emlyn Evans, yn Cronicl y Cerddor, Rhagfyr 1882. Bu farw fis Ebrill 1854, yn 60 oed, a chladdwyd ef ym mynwent capel Carmel, Pontypridd. (Gelwir ef yn ' Lloyd ' yn fynych.)

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.