Ganwyd yn Aberystwyth 23 Hydref 1810, yn hynaf o 11 plentyn Edward Lumley, adeiladydd. Addysgwyd ef yn ysgol adnabyddus John Evans (1796 - 1861) yn y dref, ac wedyn yn ysgol ramadeg Llanfihangel-genau'r-glyn - yn y ddwy yr oedd yn gyfoed â Lewis Edwards, a thyfasant yn gyfeillion agos. Dechreuodd bregethu yn 1829, ac agorodd ysgol (nid rhy lwyddiannus); yn 1831 bu'n fwy ffodus gydag ysgol yn Llandeilofawr; ond yn 1833 dilynodd ei gyfaill Lewis Edwards yn weinidog Talacharn; ordeiniwyd ef yn 1836. Symudodd yn 1839 i Lanfair-ym-Muellt; yno y priododd ei wraig gyntaf (cawsant chwech o blant) - gyda hi, cafodd fusnes dilledydd, a llwyddodd gyda'r fusnes yno, yn Llanymddyfri (1846-8), ac yn neilltuol yn Abertawe (1848-61), ar waethaf ei deithio cyson i bregethu. Ond pan symudodd (1861) i Gaerdydd, cafodd golledion trymion. Ym mis Medi 1866 cymerodd fugeiliaeth eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Seacombe, a bu yno hyd ei farwolaeth 23 Gorffennaf 1884; claddwyd yn Abertawe. Gŵr galluog iawn oedd Lumley. Ystyrid ef yn un o bregethwyr disgleiriaf ei enwad, er nad oedd yn 'hwyliog' ac na roddai fawr bwys ar ddiwinyddiaeth gyfundrefnol. Ond o'r tu allan i'r pulpud nid oedd yn boblogaidd. Nid oedd yn dda am oddef ffyliaid; yr oedd ganddo 'dymer uchelfryd' ('tymer lled gwta ' meddai tyst arall); cadwai bobl o hyd braich iddo; ac yr oedd ei ffraethineb yn ddeifiol. Bu'n llywydd cymanfa gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd yn 1874-5, ond dywedir nad oedd ei lywyddiaeth yn hapus; ac y mae'n awgrymog na chafodd byth mo'i godi i gadair (bwysicach) yr un o'r ddwy gymdeithasfa.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.