MADOG ap GWALLTER, 'Y Brawd,' bardd crefyddol

Enw: Madog ap Gwallter
Ffugenw: Y Brawd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd crefyddol
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: David Myrddin Lloyd

Nid oes sicrwydd am ei ddyddiadau, ond y mae'n debyg mai ail hanner y 13eg ganrif oedd ei gyfnod, er nad yw'n amhosibl ei fod ychydig yn ddiweddarach. Ef oedd awdur y gerdd swynol ar enedigaeth Crist: 'Mab an rhodded, mab mad aned, dan ei freiniau,' y gellir ei hystyried y garol Nadolig hynaf yn yr iaith Gymraeg sydd ar gael. Ceir awdl o'i waith hefyd i Dduw, a chyfres o englynion i Fihangel. Y mae arddull ei holl waith, ac yn arbennig felly ei gân i'r Geni, yn symlach a mwy cartrefol ei ffigurau nag sydd yn gyffredin gan y Gogynfeirdd, ac y mae ôl myfyrdod ddisgybledig ddiwinyddol ar ei awdl i Dduw. Gwyddom fod y Brodyr Llwydion yng Nghymru erbyn 1237, oblegid fe godwyd tŷ iddynt yn Llanfaes yn y flwyddyn honno gan Lywelyn Fawr. Fe geir holl awyrgylch a ffresni'r meddwl Ffransiscaidd cynnar yng ngwaith Madog ap Gwallter, ac y mae'n dra thebyg ei fod yn perthyn i Urdd Sant Ffransis. Dengys ei englynion i Fihangel ei fod yn enedigol o ryw Lanfihangel. Ceir gwaith Madog ap Gwallter yn y The Myvyrian Archaiology of Wales , 273-5; a'i ganu i Dduw, ac i'r Geni, yn Llyfr Coch Hergest, 1151-4. Nid oes dim o'i waith yn NLW MS 6680: Llawysgrif Hendregadredd .

Yn llawysgrif Caerdydd 2.611, sydd i'w dyddio yn niwedd y 13eg ganrif neu ddechrau'r 14eg ganrif, ac sy'n cynnwys testun Lladin o'r 'Dares' a Brut Sieffre, fe geir 26 llinell o farddoniaeth Ladin lle sonnir am hen wrhydri brenhinoedd y Brythoniaid, a bod Sieffre wedi cyfieithu eu cerddi mawl. Fe'i geilw'r awdur ei hun yn 'Frater Walensis madocus edeirnianensis.' Deil Syr Ifor Williams (Bulletin of the Board of Celtic Studies, cyf. iv, rhan ii, 133-4) ei bod yn debygol mai'r un bardd ydyw hwn â'r ' Brawd Fadawg ap Gwallter,' ac os felly, yr oedd yn hanfod o Lanfihangel Glyn Myfyr, plwyf a gamgysylltir ag Edeirnion hyd yn oed yn 1254, serch mai i Ddinmael y perthyn mewn gwirionedd (gweler Owen, Pembrokeshire, iv, 513, nodyn 1).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.