Ganwyd 1858 yn Croydon, ei dad o St. Ives, Cernyw, a'i fam (Emma Hobson) o Great Grimsby. Er nad oedd yn Gymro o waed bu i Matthews gyswllt hir â Chymru, ac ysgrifennodd gymaint am Gymru a'r gororau nes haeddu ohono le yn y gwaith hwn. Cafodd ei addysg mewn ysgolion yn Blackheath a Chaergrawnt, a bu am ychydig amser mewn swydd yn Malta a gafwyd iddo gan ei dad, a oedd mewn busnes llongau.
Derbyniwyd ef i'r Eglwys Babyddol yn 1877, daeth yn gyfreithiwr yn 1889, a bu'n dilyn yr alwedigaeth honno yng Nghaerdydd.
Eithr mewn hanes a defnyddiau hanes yr oedd ei ddiddordeb pennaf. Cyhoeddodd Yr hen grefydd a'r grefydd newydd Sef dadl … am yr Eglwys Gatholig…. Wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg gan … J. H. Jones (Caerdydd, 1889), A history of the parishes of St. Ives, Lelant, Towednack, and Zennor (London, 1892), The Life and Memorials of Saint Teilo (Preston, 1893), The Mass and its Folklore (London, 1903), etc. Efe a gyfieithodd Ffordd y Groes yn Gymraeg ac a olygodd Emynau Catholig.
Yn y cyfamser yr oedd yn arbenigo mewn astudio dogfennau, gan roddi sylw (a) i ddogfennau corfforaeth Caerdydd, a golygu chwe chyfrol y gwaith mawr a enwir, Cardiff Records, being materials for a history of the County Borough from the earliest times (1898-1911), a dyfod yn hanesydd swyddogol y gorfforaeth; (b) i ddogfennau swyddogol sir Fynwy (cyhoeddwyd, 1905, adroddiad a baratowyd ganddo); a (c) i ddogfennau ynglyn â hanes Pabyddion, yn enwedig rhai de-ddwyrain Cymru, sir Henffordd, etc. Bu'n archwilio dogfennau teulu Vaughan, Courtfield, sir Henffordd, a chyhoeddi, yn 1912, The Vaughans of Courtfield; a study in Welsh genealogy. (Y mae'r dogfennau hyn yn awr yn Ll.G.C.)
Yr oedd yn un o aelodau gwreiddiol y ' Catholic Record Society,' a ffurfiwyd yn 1904, gan ddyfod yn gyfrannwr toreithiog i gyfrolau'r gymdeithas honno, e.e. ' Catholic Mission Register of Perthir,' ' Records relating to Catholicism in the South Wales Marches, 17th and 18th centuries,' ' Catholic registers of Llanarth, Monmouthshire, 1781-1838,' ' A list of Monmouthshire Recusants, 1719,' etc. (gweler cyfrolau i, ii, iii, vii, ix, xii, xiii). Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i alw sylw at garolau Richard Gwyn - gweler Catholic Record Society, iv. 90-9.
Yr oedd ganddo gryn allu fel ieithydd - iaith Malta, y Gernyweg - a daeth yn bur hyddysg yn yr iaith Gymraeg. Adeg ei farw, yn Ealing, 23 Ionawr 1914, yr oedd yn gweithio ar barhad o waith Duncombe ar hanes sir Henffordd. Priododd, 1892, Alice Mary Gwyn-Hughes.
Y mae NLW MS 2851E-2853E yn cynnwys esiamplau o'i waith fel cynullwr defnyddiau hanes.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.