Cartref y teulu Catholig hwn, a roes gynifer o'i feibion a'i ferched i wasnaethu'r Eglwys Babyddol, ydyw Courtfield, yn Welsh Bicknor - yn sir Henffordd yn awr eithr hyd yn gymharol ddiweddar yn sir Fynwy.
Un o gyndadau y teulu oedd WILLIAM AP JENKIN (neu Herbert), arglwydd Wern-ddu, sir Fynwy, yn 1353; ef hefyd oedd cyndad teulu Proger, Wern-ddu; Jones (Herbert yn ddiweddarach), Treowen a Llanarth; Powell, Perthir; Hughes, Cillwch; a Morgan, Arkstone. Gan y rhoddir manylion am deulu Courtfield mewn llyfrau achau, e.e. Burke, Landed Gentry, nid oes angen cyfeirio yma ond at rai aelodau ohono.
Yn 1562 prynwyd maenor Welsh Bicknor gan JOHN AP GWILYM. Daeth ei ferch a'i aeres ef, Sibylla, yn wraig JAMES VAUGHAN, a oedd yn disgyn o Howell ap Thomas, Perthir, ac felly daeth y maenor yn eiddo aelod o dylwyth yr Herbertiaid. Priododd WILLIAM VAUGHAN (bu farw 1601), mab James Vaughan a Sibylla, Jane (Joan), merch (ac aeres, maes o law) Richard Clarke, Wellington, sir Henffordd. Ceir enw Jane (Joan) yn aml yn rhestrau'r Gwrthodwyr Catholig ('Recusants Rolls') rhwng 1592 a 1619; ceir hefyd enwau aelodau eraill o dylwyth y Fychaniaid yn y rhestrau. Cyfeirir at JOHN VAUGHAN (bu farw 1639), mab William Vaughan a Jane (Joan), fel y Vaughan cyntaf o Courtfield. Yr oedd THOMAS VAUGHAN, brawd iau William Vaughan, yn offeiriad pabaidd; ordeiniwyd ef, pan oedd dros y môr, gan Giffard, archesgob Rheims. Anfonwyd ef i'r genhadaeth yn Lloegr, Bu farw c. 1650 yng Nghaerdydd ar ôl dioddef amser caled ar fwrdd llong.
Heblaw maenor Welsh Bicknor cafodd JOHN VAUGHAN (1676? - 1754) faenorau Ruardean, sir Gaerloyw, a Clyro, sir Faesyfed; etifeddodd ef ar ôl ei ddau frawd, John Vaughan, Huntsham, a Richard Vaughan, Courtfield, a fu farw'n ddiblant. Priododd John Vaughan berthynas, sef Elizabeth, merch Philip Jones, Llanarth. Pan wnaed archwiliad gan y Senedd yn 1718 i werth tiroedd a ddelid gan Babyddion, hysbyswyd fod stadau John Vaughan mewn pedair sir yn werth £996. Yr oedd dau o feibion John Vaughan yn bleidwyr eiddgar i'r Ymhonnwr. Ymunodd y ddau â lluoedd yr Ymhonnwr (fel y gwnaeth David Thomas Morgan), gan ymladd yn Culloden. Pan orchfygwyd y tywysog Charles (Stuart) ffodd y ddau frawd i Sbaen; cyfrifwyd hwy yn wyr ar herw yn 1745 ac ni chynhwyswyd mo'u henwau hwy yn y pardwn cyffredinol a ddatganwyd gan y brenin Siôr II yn 1747. Daeth William yn gadfridog ym myddin Sbaen. Bu Richard (a fu farw yn Barcelona 1795) hefyd yng ngwasanaeth brenin Sbaen. Yr oedd ef wedi priodi Sbaenes fonheddig â pheth gwaed Gwyddelig yn ei gwythiennau, a chafwyd saith mab a thair merch o'r briodas. Daeth un o'r meibion, sef WILLIAM VAUGHAN (1738 - 1796), yn aer i'w ewythr a fuasai farw heb etifedd yn 1780 (gan fod ei dad wedi colli ei hawliau pan ddifreiniwyd ef yn 1747). Dilynwyd William Vaughan, yntau 'y pumed Vaughan, Courtfield,' gan ei fab WILLIAM MICHAEL THOMAS JOHN VAUGHAN ('y chweched'), ac yntau, yn ei dro, gan ei fab hynaf, JOHN FRANCIS VAUGHAN (1808 - 1878), 'y seithfed.' Priododd ef Eliza Louisa, merch John Rolls, The Hendre, sir Fynwy. O'r briodas hon cafwyd HERBERT VAUGHAN, ' Cardinal Vaughan,' archesgob Westminster (isod); ROGER WILLIAM VAUGHAN, archesgob Sydney; KENELM VAUGHAN, offeiriad, a dreuliodd lawer o'i amser yn Sbaen a Gogledd America; JOSEPH VAUGHAN, O.S.B., sylfaenydd a phrior mynachlog Benedictaidd Fort Augustus; BERNARD VAUGHAN (' Father Bernard Vaughan '), a ddaeth yn bregethwr adnabyddus gyda'r Jesiwitiaid; a JOHN VAUGHAN, cydesgob Salford. Yr oedd i'r brodyr hyn bedair chwaer yn lleianod.
Cyfrifir y cardinal Vaughan (1832 - 1903), archesgob Westminster, yn 'wythfed Vaughan, Courtfield. Dilynwyd ef gan ei frawd FRANCIS BAYNHAM VAUGHAN (1844 - 1919), 'y nawfed Vaughan, Courtfield,' ac yntau gan ei fab CHARLES JEROME VAUGHAN (1873 - 1948), 'y degfed Vaughan, Courtfield.' Bu ef yn dal y swydd o ' Camerario Segreto di Cappa e Spada ' i'r pab Pius X. Brodyr iddo oedd HERBERT VAUGHAN, offeiriad, a FRANCIS VAUGHAN (bu farw 1935), a wnaethpwyd yn esgob Menevia yn 1925; yr oedd iddynt chwaer yn lleian. Trosglwyddwyd dogfennau helaeth a phwysig Courtfield i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1949. (Gweler N.L.W. Annual Report, 1948-9.)
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.