MORGAN, DAVID THOMAS (c. 1695 - 1746), 'Jacobite'

Enw: David Thomas Morgan
Dyddiad geni: c. 1695
Dyddiad marw: 1746
Plentyn: Mary Morgan
Rhiant: Dorothy Morgan (née Mathew)
Rhiant: Thomas Morgan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: 'Jacobite'
Maes gweithgaredd: Gwrthryfelwyr; Milwrol; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: David Williams

mab Thomas a Dorothy Morgan, y tad yn ail fab William Morgan, Coed-y-gorres, a'r fam yn ferch David Mathew, Llandaf, ac ŵyres Syr Edmund Stradling, S. Donat's. Trwy ei fam yr oedd, felly, yn perthyn i deuluoedd tiriog amlwg Sir Forgannwg; trwy ei dad yr oedd, efallai, yn perthyn i Forganiaid Tredegar. Disgrifir ef 'o Benygraig ' (gerllaw Quakers Yard), ym mhlwyf Merthyr Tydfil, eiddo a etifeddodd, y mae'n debyg, trwy ei fam. Ni wyddys le na dyddiad ei eni; pan oedd yn sefyll ei brawf yn 1746 dywedid ei fod 'tua 51.' Ymddengys ei fod yn byw yn Llundain, yn briod, a chanddo ferch o'r enw Mary. Yr oedd ganddo eiddo yn Shoreditch, a ddaeth iddo, hwyrach, ar ei briodas. Ysgrifennodd gryn lawer o farddoniaeth ac y mae peth ohoni wedi ei gadw hyd heddiw. Yr oedd yn fargyfreithiwr; y mae ganddo un ddychangerdd yn disgrifio'r barnwyr Carter a Proctor yng nghylchdaith Brycheiniog y Sesiwn Fawr sydd efallai yn awgrymu ei fod yn ymarfer yn y gylchdaith honno. Ac eto dywed amdano'i hun: ' As one bred to the law, I confess that I never pretended to much knowledge that way.' Yr oedd Morgan yn Uchel Eglwyswr ac yn aelod gweithgar o ' The Independent Electors of Westminster,' clwb yn ymlynu wrth y Stiwartiaid. Ym mis Tachwedd 1745 aeth o Benygraig i Spetchley, gerllaw Worcester, lle y cyfarfu â William Vaughan, Courtfield. Cydymdeithiasant trwy swydd Stafford i Leigh yn Lancashire ac ymlaen i Preston, lle'r ymunasant â'r ' Ymhonnwr Ieuanc ' ('The Young Pretender'). Rhoddwyd i Morgan swydd o ymddiriedaeth yn llu'r gwrthryfelwyr ac adnabyddid ef wrth yr enw ' The Prince's Counsellor.' Wedi cyrraedd Manceinion bu'n cynorthwyo i godi'r ' Manchester Regiment ' a chynigiwyd iddo ofal y llu hwnnw eithr gwrthododd am nad ydoedd yn ŵr milwrol. (Serch hynny, pan oedd ar ei brawf dywedodd ' [that he had] served the crown of England in two campaigns with some reputation '). Pan oeddid yn symud ymlaen trwy Loegr yr oedd yn brysur yn goruchwylio'r gwaith o chwilio am offer rhyfel. Pan oedd y tywysog yn encilio o Derby aeth Morgan gydag ef am un diwrnod cyn belled ag Ashbourne; yno gadawodd y fyddin ac yn fuan iawn cymerwyd ef i'r ddalfa yn Stone. Pan ddaliwyd ef, dywedodd y bwriedid ymdaith trwy Warwick i Rydychen ac y byddai i'r myfyrwyr ymuno â'r tywysog yno, a thrwy hynny beri i'w teuluoedd ymuno i'w bleidio; y mae'n eithaf posibl mai dyna oedd cyngor Morgan yn y trafodaethau brwd a gafwyd cyn i'r tywysog benderfynu troi yn ei ôl. Cadwyd Morgan yng ngharchar Newgate yn Llundain hyd y cafodd ei brofi a'i gondemnio ar 22 Gorffennaf 1746. Wyth niwrnod wedi hynny rhoddwyd ef i farwolaeth ar Kennington Common - gyda'r holl farbareiddiwch a oedd yn arferol pan leddid dyn oblegid teyrnfradwriaeth. Ceir ei gred wleidyddol wedi ei hysgrifennu ar bapur a roes ef ei hunan i siryf Surrey cyn iddo gael ei ladd; argraffwyd y gred hon gan William Llewellin yn ei erthygl ef ar Morgan.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.