brodor o sir Faesyfed. Bu'n siryf Brycheiniog yn 1762 (yn y flwyddyn honno, gellid meddwl, yr urddwyd ef yn farchog), a hefyd yn siryf sir Faesyfed - yn 1780, meddai'r copi o'i feddargraff yn Jones, History of the County of Brecknock, 3ydd arg, ii, 91, ond yn 1767 meddai'r rhestr o siryfon Maesyfed yn Jonathan Williams Hist. Radnorshire, 2il argraffiad, 97. Bu farw 6 Mawrth 1780, yn 66 oed; bu ei briod Johannah farw naw diwrnod o'i flaen. Meredith oedd cyfreithiwr Howel Harris; gwelir llythyrau ganddynt yng nghasgliad Trefeca yn Ll.G.C., rhwng y rhifnodau 2123 a 2546.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.