Ceir prawf o gyfnod ei flodeuo yn y De Principis Instruction (dist. iii, cap. 28) gan Gerallt Gymro. Yno ceir hanes am fardd a milwr yn ymddangos i Feurig mewn gweledigaeth ac yn ei herio i gwpláu pennill a ragddywedai am yr 'interdict' a osodwyd gan y pab ar Loegr yn amser y brenin John. Dywed Gerallt mai brodor o Forgannwg oedd Meurig (Mauricius) a'i fod yn frawd i Glement, abad Castell Nedd. Y mae Bale (Index Britanniae Scriptorum), hefyd, yn ei alw Mauricius Morganensis, a chyda Gerallt yn tystio am ei ddoniau llenyddol, gan ddweud iddo gyfansoddi cyfrol o epigramau Lladin a llawer cyfrol yn y Gymraeg ('in patrio sermone'). Yn ôl hyn y mae'n hawdd derbyn y gosodiad mai'r un oedd Mauricius a Meurig, trysorydd Llandaf, ac felly mae'n afreidiol sôn am ' Forus Morgan ' yn ychwanegol at Feurig, fel y gwna Enw. F. Yn y Iolo MSS., tt. 622, 638, sonnir am Feurig fel awdur ' Y Cwtta Cyfarwydd ' (yn ôl pob tebyg cynddelw'r gwaith o'r un enw a ysgrifennwyd yn 1445 gan Gwilym Tew ac a geir yn awr yn Hengwrt MS. 34), ' Hanes holl Ynys Prydain,' ' Llyfr Diarhebion,' ' Dosparth Cerdd Dafawd,' ' Theologyddiaeth Gymraig,' a chyfieithiad Cymraeg o Efengyl S. Ioan. Y mae Enwogion Cymru: a Biographical Dictionary of Eminent Welshmen yn dweud iddo flodeuo tua 1290, ond y mae hyn yn rhy ddiweddar o lawer.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.