Ganwyd yn 1809, mab Evan Morgan, un o flaenoriaid hen gapel Seion, Caerdydd. Saernïwyr cerrig beddau oedd THOMAS MORGAN (1816 - 1858), ei frawd, ac yntau.
Dechreuodd bregethu yn 1830, yr un adeg ag Edward Matthews, cyfaill mawr y teulu. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Llangeitho, 1841. Trigodd yng Nghaerdydd ar hyd ei oes, a bu rhyw gyswllt bugeiliol rhyngddo a Seion. Priododd, 1836, Mary Morgan, Clunhir, Pontardulais. Cyhoeddodd Tŵr y Praidd (dwy ddarlith) yn 1851, a Boanerges: neu, Hanes Bywyd Morgan Howells , yn 1853. Mewn afiechyd y dechreuodd lenydda, ond llaw angau a'i rhwystrodd rhag cyflawni ei addewid. Bu farw 10 Awst 1853. Priododd ei weddw â'r Parch. Richard Lumley.
Cyhoeddodd Edward Matthews bregeth goffa iddo yn 1853, a phregeth gyffelyb (Y Diacon) i goffadwriaeth Thomas Morgan yn 1859.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.