ym mhlwyf Llanwynno, Morgannwg. Y mae'r mymryn o ffeithiau a wyddys amdano i'w weld yn y llyfr diddan Plwy Llanwynno, gan ' Glanffrwd ' (William Glanffrwd Thomas), a chyda'r ffeithiau gryn swm o chwedloniaeth y fro ynghylch Guto. Ganed ef, meddir, yn 1700, yn Llwyncelyn, ar gyrion deheuol y plwyf ac uwchlaw'r Hafod (ger Pontypridd), ond symudodd ei rieni'n fuan wedyn i dyddyn cyfagos Nyth-brân. Bu farw yn 1737 - cwympodd yn farw wedi ennill ras o 12 milltir (o Gasnewydd i eglwys Bedwas) mewn 53 munud. Claddwyd yn erw'r llan yn Llanwynno, ac y mae maen coffa ar ei fedd. Hysbys yw baled I. D. Hooson arno.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.