yng Nghaergybi; ganwyd ddechrau 1801 ger Trefdraeth, Sir Benfro. Ymaelododd gyda'r Annibynwyr. Oddeutu 1818, ac ef yng ngwasanaeth W. Griffiths, gweinidog Tabor, Dinas Cross, ymunodd â'r Bedyddwyr a dechrau pregethu yno. Aeth i ddysgu crydda i ardal Blaenywaun, a phan ddarganfu'r eglwys honno ei athrylith cadwodd ef am flwyddyn yn ysgol William Owen yn Aberteifi. Treuliodd ddwy flynedd yn athrofa'r Fenni. Galwyd ef i Gaergybi ddiwedd 1824, a'i ordeinio 18 Ebrill 1825, y Bedyddiwr cyntaf i'w urddo ym Môn; ei hafal ni fu yno ac eithrio Christmas Evans. Yr oedd, ebe Robert Jones, Llanllyfni, cyn alluoced â John Elias, ond nid oedd mor glir ag ef. Bu'n dadlau â gwŷr galluog yn Y Bedyddiwr. Cyfansoddodd farwnad a Cofiant i Robert Williams, Rhuthyn. Cyhoeddodd Cofiant a Gweithiau Christmas Evans gan roi'r elw i'w weddw. Eithr Cysondeb y Ffydd (672 o dudalennau) ydoedd ei gampwaith. Bu farw o'r parlys, 15 Medi 1872.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.