Fe wnaethoch chi chwilio am david lloyd george
Ganwyd yn 1744 yn Lledrod, Sir Aberteifi, mab Morris Morgan. Dywedir mai porthmon ydoedd ym more'i oes, ond ni wyddys am ei gysylltiadau crefyddol y pryd hynny. Dechreuodd bregethu gyda'r Methodistiaid yn 1765 a daeth i amlygrwydd yn fuan fel pregethwr nerthol, a chafodd ddylanwad mawr ar y werin yn ystod ei deithiau dros Gymru. Dechreuodd dewychu o ran ei gorff pan oedd yn ieuanc, a rhwystrwyd ef gan hynny rhag teithio gymaint â rhai o'i gyfoeswyr. Symudodd i Dŵr-gwyn, plwyf Tredreyr, yn 1774, ar gais y seiat Fethodistaidd yno i'w bugeilio, a bu'n trigo ym Mhen-y-ffos. Claddwyd Mary, ei wraig, yn 1788, a chanodd ' Williams, Pantycelyn ' farwnad iddi; enwir ' Betti,' ei ail wraig, ym marwnad Thomas Jones i'w goffadwriaeth. Mab y wraig gyntaf oedd yr enwog Ebenezer Morris. Bu farw 17 Medi 1791 a chladdwyd ef ym mynwent Tredreyr.
Yr oedd David Morris yn emynydd o fri hefyd. Cyhoeddwyd casgliad o'i emynau o wasg J. Ross, Caerfyrddin, yn 1773, sef Can y Pererinion Cystuddiedig ar eu Taith tua Seion , sy'n cynnwys 'N'ad im fodloni ar ryw rith,' 'Mae pawb o'r brodyr yno'n un,' etc. Y mae 'Marwnad i Rees Williams o Gauo' yn y casgliad uchod, a chyhoeddodd Marwnad ar Farwolaeth Llewelyn Dafydd o Blwyf Trecastell, etc., o'r un wasg yn 1783.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.