MORRIS, RUPERT HUGH (1843 - 1918), clerigwr a hynafiaethydd

Enw: Rupert Hugh Morris
Dyddiad geni: 1843
Dyddiad marw: 1918
Rhiant: William Morris
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Nhreffynnon 16 Mawrth 1843, yn ail fab i'r cyhoeddwr William Morris (1812 - 1886). O ysgol Rhuthyn, aeth yn Ebrill 1861 i Goleg Iesu yn Rhydychen; graddiodd yn 1865 gydag anrhydedd yn y clasuron (D.D. 1884). Ar ôl pedair blynedd yn athro yn ysgol Rossall (a chael ei urddo yn 1867), bu'n brifathro'r coleg hyfforddi yng Nghaerfyrddin o 1869 hyd 1876; yn 1873 cafodd ganoniaeth yn Nhyddewi, a ddaliodd weddill ei oes. O 1876 hyd 1884 bu'n brifathro ' Ysgol Godolphin ' yn Hammersmith (gyda ficeriaeth yn Llundain, 1878-82); ond yn 1884 symudodd i Eccleston, yn gaplan a llyfrgellydd i'r dug Westminster. Gwnaeth waith hanesyddol da yn ystod ei 10 mlynedd yno - gellir nodi ei Chester during the Plantagenet and Tudor Reigns, 1894, a'i lyfr, 1895, ar hanes esgobaeth Caerlleon. Yn 1894 cafodd gan y dug ficeriaeth S. Gabriel's, Pimlico, lle y bu farw 2 Ionawr 1918. Bu'n aelod o Gymdeithas Hynafiaethol Cymru o 1890 ymlaen, ac yn olygydd Archaeologia Cambrensis o 1907 hyd 1918; cyfrannodd ysgrifau da iawn i hwnnw. Dros y gymdeithas hefyd y golygodd yn 1909-11 Parochialia Edward Lhuyd; ond ni fedrai ddigon o Gymraeg i wneud llwyr gyfiawnder â'r gwaith hwnnw.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.