NON(N) (NONNA, NONNITA), santes; fl. yn ddiweddar yn y 5ed ganrif

Enw: Non (N)
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: santes
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Hywel David Emanuel

Merch Cynyr o Gaer Gawch ym Mynyw. Ceir y traddodiad amdani bron i gyd ym ' Muchedd Dewi Sant ' a gyfansoddwyd gan Rygyfarch. Dywedir i Non gael ei threisio gan Sant (Sanctus), brenin Ceredigion, er ei bod hi yn lleian, ac iddi mewn canlyniad esgor ar Ddewi Sant. Pan bregethai Gildas Sant un tro yn un o eglwysi'r ardal, collodd ei leferydd am fod Non yno yn feichiog o Ddewi. Adroddir hanes cyffelyb hefyd am Ailbe Sant ym ' Muchedd Ailbe Sant ' (Plummer, Vitae Sanct. Hib.). Digwyddodd rhyfeddodau pellach, yn ôl y stori, adeg geni Dewi. Dywed Rhygyfarch i Non, wedi geni Dewi, fyw bywyd hollol ddiwair; ar y llaw arall, myn traddodiad Gwyddelig mai hi hefyd oedd mam Mor, fam Eltin Sant, a Magna, hithau yn fam i Setna Sant. Dywedir i Non wedi hyn ymfudo i Gernyw, lle y cysegrwyd nifer o eglwysi i'w henw. Gwell gan Doble (S. Nonna), er hynny, gredu mai gŵr o fynach a fu'n gydymaith i Ddewi Sant oedd y Nonna Cernywaidd. Edwyn traddodiad Llydewig Non wrth yr enw Melaria. Ceir yr eglwysi sydd yn arddel enw Non yng Nghymru bob un yn agos i eglwysi'n dwyn enw Dewi, sef Llannerchaeron a Llannon yng Ngheredigion a Llannon yn Sir Gaerfyrddin. Yr oedd hefyd gapelau yn dwyn ei henw ym mhlwyf Cregrina (Llanbadarn-y-garreg) yn sir Faesyfed, ac yn Ilston yn Sir Forgannwg. Dethlid gŵyl y santes Non yng Nghymru ar 2 Mawrth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.